Communications Manager - Expiring soon!
Posted 02/04/2024 by WWF
Communications Manager
- Maternity Cover Contract
- £36,486 pa
- Cardiff CF24 0EB / Hybrid Working
This is a UK based contract and as such, you are required to have the Right to Work in the UK. Evidence of your Right to Work will be checked prior to interview.
This is a remarkable opportunity to work with an incredibly dedicated team and use your experience in communications to help put nature at the top of the political and media agenda in Wales and secure better decisions for our environment.
WWF Cymru is currently pursuing a multi-year work programme to address the ‘Triple Challenge’ in Wales: how we tackle climate change, reverse the loss of nature, and transition to a sustainable food system. As Communications Manager you will help step up our influencing and campaigning activity in Wales. As part of a small communications team, you’ll have a key role in raising WWF Cymru’s voice and making sure the case for nature is heard loud and clear.
As Communications Manager you will keep up to date with the political and news agenda as well as maintain strong relationships with journalists and develop opportunities to secure media coverage. You will develop and deliver bilingual communication activities with a particular focus on media and social media channels. This will include writing press releases, reactive statements and media briefings, developing case studies and filming/photo opportunities. You will sometimes act as a broadcast spokesperson too. You will also build productive working relationships with stakeholders and collaborate with colleagues to help grow and engage our supporter base. In addition, your remit will include maintaining out of hours media relations and social media engagement where needed.
For this high-profile role, you must have a strong track record of media relations, including proactive and reactive work, and of having secured positive high-profile coverage. You will have in-depth knowledge of the media landscape in Wales and an understanding of what makes journalists and politicians tick. You will have a good understanding of Welsh politics, culture and current affairs too. You will also have a track record of delivering projects or campaigns working with a wide variety of partners and stakeholders. Critically, you will have experience of working in a bilingual environment.
An effective communicator, you will be good at producing engaging content and producing concise reporting. Able to work to deadlines, you will be highly organised with excellent relationship building, interpersonal and project management skills too.
If you have the experience to engage and influence political and public audiences, we would love to hear from you. Please click on the link and apply via our website by submitting a copy of your up-to-date CV and Supporting Statement to highlight what makes you a good fit for us.
WWF UK are committed to an inclusive and accessible recruitment process. As a Disability Confident Employer, we acknowledge that some candidates may require additional support to overcome barriers experienced during the application process. If you require any reasonable adjustments to support your application or interview, please reach out to the Talent Acquisition team via our website.
Every role at WWF is open to applications from all sections of society. We believe in the potential of everyone regardless of; sex, race, religion or belief, ethnic origin, different physical ability, family structure, socio-economics, age, nationality or citizenship, marital, domestic or civil partnership, sexual orientation, gender identity, or any other aspect that makes you, well you. Here at WWF, we are committed to conscious inclusion that helps cultivate an ethos of belonging, connection and shared purpose. We believe that the more diverse we are the better we become; this brings us together and empowers us to develop, engage and inspire; and critically to help build a future where people can live in harmony with nature.
Our policies and benefits reflect the importance of people being able to have a good work-life balance and being able to bring their ‘full self’ to work.
Our world needs you like never before. We are the first generation to know we are destroying the world and we could be the last that can do anything about it. We are looking for people who are passionate about making it politically, socially and economically unacceptable to destroy our planet’s natural resources. We need you to join us in the fight for our world.
Rheolwr Cyfathrebu (Cymru)
- Cytundeb Cyfnod Penodol 12 Mis (cyfnod mamolaeth)
- £36,486 y flwyddyn
- Caerdydd CF24 0EB / Gweithio Hybrid
Cytundeb yn y DU yw hwn ac felly mae’n ofynnol ichi feddu ar hawl i weithio yn y DU. Bydd y dystiolaeth o’ch hawl i weithio yn cael ei gwirio cyn y cyfweliad.
Mae hwn yn gyfle arbennig i weithio gyda thîm hynod ymroddedig a defnyddio eich profiad ym maes cyfathrebu er mwyn helpu i roi natur ar frig yr agenda gwleidyddol a chyfryngol yng Nghymru, a sicrhau penderfyniadau gwell dros ein hamgylchedd.
Ar hyn o bryd mae WWF Cymru yn dilyn rhaglen waith aml-flwyddyn i fynd i’r afael â’r ‘Her Driphlyg’ yng Nghymru: sut yr ydym yn mynd i’r afael â newid hinsawdd, gwrthdroi colli natur, a newid i system fwyd gynaliadwy. Fel aelod o dîm cyfathrebu bach, bydd gennych rôl allweddol wrth godi llais WWF Cymru a sicrhau y caiff y ddadl dros natur ei chlywed yn glir ac yn groyw.
Mae hwn yn rôl Rheolwr Cyfathrebu sy’n canolbwyntio ar Gysylltiadau Cyhoeddus, y cyfryngau ac eiriolaeth, yn adrodd i’r Pennaeth Cyfathrebu (Cymru) ac yn cydweithio’n agos â’n Rheolwr Cyfathrebu (Ymgyrchoedd), yn ogystal â chydweithwyr eraill yn WWF Cymru a gweddill WWF-UK.
Fel arbenigwr yn y cyfryngau yng Nghymru, byddwch yn cadw i fyny â’r agenda gwleidyddiaeth a newyddion ynghyd â chynnal perthnasoedd cadarn gyda newyddiadurwyr a meithrin cyfleoedd i gael sylw yn y cyfryngau. Byddwch yn datblygu a chyflenwi gweithgareddau cyfathrebu dwyieithog â phwyslais ar eiriolaeth wleidyddol ac ymgyrchu yn y cyfryngau ac ar draws sianelau’r cyfryngau cymdeithasol. Bydd y gwaith hwn yn cynnwys ysgrifennu datganiadau i’r wasg, datganiadau adweithiol a dogfennau briffio i’r cyfryngau, datblygu astudiaethau achos, inffograffeg a chyfleoedd i ffilmio/tynnu lluniau. Byddwch hefyd yn meithrin perthnasoedd gweithio cynhyrchiol gyda rhanddeiliaid ac yn cydweithredu â chydweithwyr er mwyn helpu i gynyddu ac ymgysylltu â’n sylfaen cefnogwyr. Yn ogystal, bydd eich cylch gwaith yn cynnwys cynnal cysylltiadau â’r cyfryngau ac ymgysylltu ar y cyfryngau cymdeithasol y tu allan i oriau swyddfa lle bo angen.
Ar gyfer y rôl hon, bydd arnoch angen hanes da o gysylltiadau â’r cyfryngau, gan gynnwys gwaith rhagweithiol ac adweithiol, ac o sicrhau sylw cadarnhaol proffil uchel. Bydd gennych wybodaeth fanwl o dirwedd y cyfryngau yng Nghymru a dealltwriaeth o’r ffordd mae meddyliau newyddiadurwyr a gwleidyddion yn gweithio. Bydd gennych ddealltwriaeth dda o wleidyddiaeth, diwylliant a phynciau’r dydd yng Nghymru. Bydd hefyd gennych hanes da o gyflawni prosiectau neu ymgyrchoedd gan weithio gydag amrywiaeth eang o bartneriaid a rhanddeiliaid. Yn hollbwysig, bydd gennych brofiad o weithio mewn amgylchedd dwyieithog yng Nghymru a dealltwriaeth sylfaenol o’r Gymraeg.
Yn gyfathrebwr effeithiol, byddwch yn gallu cyflenwi cynnwys diddorol yn dda a chynhyrchu adroddiadau cryno. Byddwch yn gallu gweithio’n unol ag amserlenni, yn drefnus iawn ac yn meddu ar sgiliau meithrin perthnasoedd, rhyngbersonol a rheoli prosiect rhagorol hefyd.
Os yw hyn yn swnio’n debyg i chi, byddem wrth ein bodd i glywed gennych chi. Cliciwch ar y ddolen a gwneud cais trwy ein gwefan trwy gyflwyno copi o’ch CV cyfredol gyda’r Datganiad Ategol i nodi beth sy’n golygu y byddwch yn cyd-asio’n dda gyda ni.
Mae WWF UK wedi ymrwymo i gynnal proses recriwtio gynhwysol a hygyrch. Fel Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd, rydym yn cydnabod efallai y bydd angen cymorth ychwanegol ar rai ymgeiswyr i oresgyn rhwystrau a brofwyd yn ystod y broses ymgeisio. Os oes arnoch angen unrhyw addasiadau rhesymol i gefnogi’ch cais neu gyfweliad, cysylltwch â’r tîm Caffael Talent drwy ein gwefan.
Mae pob rôl yn WWF yn agored i geisiadau gan bob rhan o’r gymdeithas. Credwn ym mhotensial pawb heb ystyried; hil, crefydd neu gred, tarddiad ethnig, gallu corfforol gwahanol, strwythur teuluol, ffactorau economaidd-gymdeithasol, oed, cenedligrwydd neu ddinasyddiaeth, partneriaeth briodasol, ddomestig neu sifil, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth o ran rhywedd, neu unrhyw agwedd arall sy’n golygu mai chi yw chi. Yma yn WWF, rydym wedi ymrwymo i gynhwysiant ymwybodol sy’n helpu i feithrin ethos o berthyn, cysylltiad a nod cyffredin. Yn ein barn ni, po fwyaf amrywiol ydym ni, gorau y byddwn ni; mae hyn yn ein dwyn ynghyd ac yn ein grymuso i ddatblygu, ymgysylltu ac ysbrydoli; ac yn hollbwysig, i helpu i greu dyfodol lle gall pobl fyw mewn cytgord â natur.
Mae ein polisïau a’n buddion yn adlewyrchu’r ffaith ei bod yn bwysig i bobl allu cael cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith a gallu dod â’u ‘hunan llawn’ i’r gwaith.
Mae ar ein byd eich angen chi mwy nag erioed o’r blaen. Ni yw’r genhedlaeth gyntaf sy’n gwybod ein bod ni’n dinistrio’r byd ac mae’n bosibl mai ni yw’r genhedlaeth olaf a all wneud unrhyw beth yn ei gylch. Rydyn ni’n chwilio am bobl sy’n teimlo’n angerddol ynghylch ei gwneud yn annerbyniol yn wleidyddol, yn gymdeithasol ac yn economaidd dinistrio adnoddau naturiol ein planed. Mae arnom angen ichi ymuno yn y frwydr dros ein byd.
- Type:
- Contract
- Contract Length:
- N/A
- Contact Name:
- Login or register to view
- Job Reference:
- Communications Manager
- Job ID:
- 221393887
Remember: You should never send cash or cheques to a prospective employer, or provide any financial information. Please get in touch if you see any roles asking for payments or financial details from you. For more information, visit jobsaware.co.uk.